Header Image for Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych
council crest

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych

Rydym ar hyn o bryd yn diweddaru'r wefan Gymraeg. Cyfeiriaf chi i'r Wefan Saesneg dros dro.

Ymddiheiriadau am unrhyw anghyfleuser. 

 

 

 

 

Mae Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych yn gymuned wledig, yn seiliedig yn wreiddiol ar amaethyddiaeth â phoblogaeth o 1,833 sy'n cynnwys ardaloedd Carmel, Gelli Aur, Milo, Pantyllyn, Maesybont a Chastell y Rhingyll. Mae'r ardal yn gyfoethog o ran hanes, chwedlau a chysylltiadau â diwylliant Cymru. Ceir neuaddau pentref yng Ngelli Aur (yr hen ysgol), Carmel a Chastell y Rhingyll.

Mae'r A476 yn arwain trwy'r ardal er mwyn cysylltu Canolbarth Cymru a Thraffordd yr M4, ceir nifer o ffyrdd B hefyd, sy'n cysylltu'r ardal â chanolfannau poblogaeth eraill megis Caerfyrddin, ceir ynddi hefyd rwydwaith o ffyrdd dosbarth C.

Mae rhan ogleddol y plwyf yn ffurfio rhan o ardal dalgylch afon Tywi, ac mae'r rhan ddeheuol yn cael ei ffurfio gan ddalgylch afon Marlais, sy'n dechrau ger Rhydgoch ac yn gadael y plwyf ger Derwydd, er mwyn llifo i'r afon Llwchwr ger Rhydaman. Prif isafon y Marlais yw Nant Pysgotwr, sy'n dechrau ger Bryndu a gellir gweld olion argae yno hyd heddiw, roedd hwn yn gronfa ddwr ar gyfer yr hen felin (Melin Cae Bwch), ger Abercamlais a'r Felin Newydd, a ddaeth i ben ar ddechrau'r 1990au. Roedd hefyd yn cyflenwi pysgod ac adar dwr ar gyfer y teulu Vaughan ym mhlasty Gelli Aur, y teulu oedd prif dirfeddianwyr y plwyf ar un adeg.

Yr unig ysgol gynradd sydd ar ôl yn y plwyf yw Maesybont, mae'r ddwy arall yng Ngelli Aur a Nantygroes (Milo) wedi cau, felly mae plant yr ardal yn mynychu ysgolion cynradd Maesybont, Ffairfach, Llandeilo, Llandybie a Chwrt-henri, darperir addysg uwchradd yn Ysgol Bro Dinefwr (Tregib) a Maes y Gwendraeth (Maes yr Yrfa).

Newyddion Diweddaraf

Atgoffir trigolion Llanfihangel Aberbythych bod newidiadau i'r casgliadau sbwriel ac ailgylchu dros benwythnos gwyl y banc. Mae'r casgliadau ddiwrnod yn hwyrach nag arfer yn ystod y gwyliau hyn.

 

Cliciwch ar y lluniau er mwyn cael llun mwy.
St Michael's Gelli Aur 2St Michael's Gelli Aur 1
Cairn, Carmel
 Eglwys San Mihangel Gellir Aur 2Eglwys San Mihangel Gellir AurCairn, Carmel