Header Image for Cyngor Cymuned Llanfihangel Aberbythych

Ynglyn â'r Ardal

Gelli Aur

Roedd yr eglwys gyntaf yng Ngelli Aur wedi'i gwneud o bren a'i gosod ar stilts er mwyn ei chodi yn uwch na lefel llifogydd, roedd yn agos at y coetir ar ochr dde'r ffordd sy'n arwain o waelod bryn Gelli Aur tuag at yr hen Orsaf Drenau ar y tir, sy'n ffurfio rhan o Fferm y Coleg, a elwid yn Home Farm.

Roedd John Vaughan o Dy Gelli Aur (nid y plasty presennol), wedi adeiladu eglwys newydd ym 1617 yn y lleoliad presennol. Rhwng 1847 a 1850 adeiladodd yr Arglwydd Cawdor yr eglwys o'r newydd a hwn yw adeilad presennol yr eglwys.

Carmel

Mae pentref Carmel yn cynnwys capel ac eglwys a thafarn ar bob pen y pentref.

Mae Coetir Carmel, sy'n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid. Ceir hefyd Carnedd o'r Oes Efydd a symudwyd o'r chwarel i safle'r Warchodfa Natur. Yma ceir pedair odyn galch Fictorianaidd ac ar ochr y Warchodfa ym Mhantyllyn ceir yr unig dirlyn ar dir mawr Prydain.

Mae Llynllech Owain yn llyn sy'n llawn chwedlau ac mae'n rhan o Barc Gwledig sy'n cynnwys amrywiaeth o adnoddau.

Pantyllyn

Yn hanesyddol roedd pentrefan Pantyllyn yn cael ei adnabod yn bennaf am y chwareli carreg galch ac mae'r dirwedd yn parhau i ddangos lleoliad y chwareli a gwelir olion yr odynnau calch mewn sawl lleoliad, yn enwedig ar y grib y calchfaen sy'n amlwg ar y gorwel o Bantyllyn i Faesybont ac ymhellach. Mae enw'r pentrefan yn cyfeirio at y llyn bach sydd ar ochr y ffordd, sy'n arwain o Bantyllyn at Bentregwenlais, mewn gwirionedd mae'r llyn yn Dirlyn, sef yr unig un ym Mhrydain ac mae lefel y dwr yn ymateb i'r glaw a bydd yn sychu'n llwyr yn ystod sychder.

Milo

Enwyd pentref Milo ar ôl y ddau gapel ac mae wedi treblu o ran nifer y tai ers y 1970au. Ar un adeg roedd yma ddwy siop, a gaeodd yn hwyr yn y 1940au. Adeiladwyd yr ysgol ym 1915 a bu dros 150 o ddisgyblion yma ar un adeg, ond caeodd yn 2010.

Cliciwch ar y lluniau er mwyn cael llun mwy.
Church Hall Gelli Aur The Turlough Bronze Age Cairn
Neuadd yr Eglwys Gelli Aur Y Tirlyn Carnedd o'r Oes Efydd